Mae'r Duw anfeidrol mewn trugaredd,
Er mai Duw y cariad yw,
Wrth ei gofio, imi'n ddychryn,
Imi'n ddolur, imi'n friw;
Ond ym mhabell y cyfarfod
Mae Fe yno'n llawn o hedd,
Yn Dduw cymodlon wedi eistedd,
Heb ddim ond heddwch yn ei wedd.
Yno mae fy mwyd a 'niod,
Fy noddfa a'm gorffwysfa wiw,
Fy meddyginiaeth a fy nhrysor,
Twr cadarn anffaeledig yw;
Yno mae fy holl arfogaeth
Yn wyneb fy ngelynion cas;
Mae 'mywyd i yno yn guddiedig
Pan wy' i yn ymladd ar y ma's.
Cael Duw'n Dad,
a Thad yn noddfa,
Noddfa'n graig,
a'r graig yn dwr,
Mwy nis gallaf ei ddymuno
Gyda mi mewn tân a dwr;
Ohono Ef mae fy nigonedd,
Ynddo trwy fyddinoedd af;
Hebddo, eiddil,
gwan a dinerth,
A cholli'r dydd yn wir a wnaf.
Ann Griffiths 1776-1805
Tôn [8787D]: Dismissal (William L Viner 1790-1867) gwelir: O am dreiddio i'r adnabyddiaeth |
God, immeasurable in mercy,
Although the God of love he is,
Is, while thinking on him, alarming to me,
Saddening to me, a wound to me;
But in the tent of meeting
He is there full of peace,
As a reconciling God seated,
With only peace in his countenance.
There is my food and my drink,
My refuge and my worthy rest,
My medicine and my treasure,
An unfailing strong tower he is;
There is all my armour
In the face of my hateful enemies;
My life is there hidden
When I am fighting on the field.
To have God as Father,
and a Father as a refuge,
A refuge as a rock,
and the rock as a tower,
I could not wish for more
With me in fire and water;
From Him is my sufficiency,
In him through armies I will go;
Without him, feeble,
weak and strengthless,
And lose the day truly I shall.
tr. 2011 Richard B Gillion
|
God though infinite in mercytr. H A Hodges 1905-76
|